Cofnodion y
Grŵp Trawsbleidiol ar Fwyd Ysgol
Dydd
Mercher 20 Medi 2023, 12:00 – 13:30
Yn
bresennol:
Jenny Rathbone AS
(JR), Caerdydd
Canolog; Peter Fox AS (PF), Sir Fynwy; Sian Gwenllian AS
(SG), Arfon; Marc Tierney, Rheolwr Swyddfa Eluned Morgan
AS
Hefyd yn
bresennol: Marianne Fisher (MF), Cyngor Sir Mynwy; Rhys
James, Cyngor Sir Caerffili; Judith Gregory, Cyngor
Caerdydd; Andrew Tuddenham, Cymdeithas y Pridd Cymru;
Gareth Thomas (GT), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;
Edward Morgan (EM), Bwydydd Castell Howell; Alex Cook
(AC), Christopher Pugh, Cyngor Sir Caerfyrddin;
Caroline Campbell, Cyngor Gwynedd; Becky Green,
(gwestai); Mark Lawton, Bwydydd Harlech; Holly Tomlinson
(HT), Cynghrair y Gweithwyr Tir; Katie
Palmer (KP), Synnwyr Bwyd
Cymru; Niki
Keagan, Can
Cook; Gemma
Roche-Clarke, Matthew Thomas, Karen Coombs,
Llywodraeth Cymru;
Ymddiheuriadau:
Yr Athro
Kevin Morgan, Becca Jablonski, Prifysgol Caerdydd; Jason Rawbone, Llywodraeth Cymru;
Pearl Costello, Synnwyr Bwyd Cymru; Hannah Caswell,
Cymdeithas y Pridd; Gareth Ayers, Yvonne Cole, Cyngor Sir
Caerfyrddin; Jen Griffiths, Cyngor Sir y Fflint
Cytuno ar Gofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2022
Cytunwyd ar y
cofnodion.
Nodiadau
Cyflwyno:
Cyflwynodd
Marianne Fisher, Rheolwr Prosiectau Bwyd Cynaliadwy, Cyngor
Sir Mynwy sut mae’r Cyngor yn cynyddu’r cyflenwad o
fwyd ysgol iach, o ffynonellau lleol ac wedi eu paratoi â
chynhwysion crai mewn 39 o geginau ysgol sy’n darparu ar
gyfer 40 o ysgolion cynradd, a rhai o’r cyfyngiadau a
brofwyd.
Materion
allweddol a godwyd:
·
Mae Cyngor Sir Mynwy yn anelu at fwy o fwyd lleol mewn
ysgolion, wedi ei gyrchu drwy gyfanwerthwyr naill ai yn Lloegr neu
yng Nghymru, - gall 'lleol' gynnwys trawsffiniol. Mae cynhwysion
tymhorol fel tomatos yn cael eu prosesu gartref yn sawsiau, topin
pizza a Bolognese i gynyddu cymeriant llysiau. Mae corbys a
chodlysiau yn ymestyn prydau cig, gan gadw costau i lawr. Erys rhai
eitemau wedi eu prosesu, fel bara a chwstard. Mae safonau iechyd yr
amgylchedd yn mynnu bod cig rhost yn cael ei goginio ymlaen
llaw.
·
Mae datblygu bwydlenni'n dibynnu ar gynhyrchion cyflenwyr
cymeradwy ar gronfa ddata Saffron, wedi eu gwirio am alergenau a
maetholion. Mae staff y gegin yn archebu o restr tîm canolog.
Nid yw model caffael deinamig yn gweddu i'r system bresennol.
Ymunodd Sir Fynwy â Chynllun Pheilot Llysiau Cymru mewn
Ysgolion Cynradd. Mae dyraniad Cronfa Ffyniant Gyffredin yn ategu
cadwyni cyflenwi lleol. Mae Cyngor Sir Mynwy wedi cyflogi rheolwr
arlwyo corfforaethol sy'n canolbwyntio ar arloesi a ffynonellau
lleol.
·
Ymhlith yr heriau mae ceginau bach, cyfyngiadau amser, a
risgiau gwastraff oddi ar blatiau cysylltiedig. Mae Cyngor Sir
Mynwy yn rhoi cymhorthdal o ~85c i bob pryd ac yn chwilio am
arbedion yn y gyllideb. Mae Prydau Ysgol am ddim i holl blant
Ysgolion Cynradd yn rhoi straen ar gostau, yn enwedig o ran staffio
a chymorthdaliadau. Mae pwrpas 'tarddiad lleol a choginio'n ffres'
yn parhau i fod yn aneglur — cyflogaeth, allyriadau carbon,
ynteu iechyd? Mae eglurder pwrpas yn allweddol i ategu’r
broses o wneud penderfyniadau a deall/cyfiawnhau cyfaddawdau
posibl. Mae diffinio 'lleol' yn ôl maint neu werth a nodi
partïon cyfrifol ar gyfer casglu a monitro data yn parhau i
fod yn gwestiynau.
Trafodaeth
SG – mae’r Cytundeb Cydweithredu yn
cyfeirio at wella cynhyrchiant bwyd lleol a chadwyni dosbarthu er
budd economïau lleol, a dyma hefyd nod y cynnig Cinio Ysgol am
ddim Cyffredinol. A oes gan Sir Fynwy farn ynghylch sut beth yw
bwyd ysgol da neu sut i’w ddiffinio?
MF – mae’n dibynnu ar bwy rydych chi'n
gofyn y cwestiwn iddynt. Mae cytundeb cyffredinol bod yr elfennau
cynaliadwy, amgylcheddol gadarn, fforddiadwy ac iach yn bwysig. Ond
mae'r cyfaddawdau yn cael eu rheoli'n anghyson. Mae cadwyni
cyflenwi confensiynol hefyd yn cael eu cyflenwi gan gynhyrchwyr da
byw teuluol lleol. Mae angen gwneud cadwyni cyflenwi confensiynol
yn fwy hygyrch i dyfwyr llai ond bydd angen mewnbwn gan
gyfanwerthwyr gan nad oes gan awdurdodau lleol yr amser na'r
wybodaeth i siopa o gwmpas gan gynhyrchwyr unigol.
SG - A beth yw'r nifer sy'n manteisio ar Brydau Ysgol
am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn Sir Fynwy? Cwestiwn a
gyfeiriwyd at Gyngor Sir Mynwy. (gweler yr wybodaeth
atodedig)
PF – Mater hollbwysig yw’r diffyg data
hygyrch ar gyflenwad bwyd a’r cyfleoedd.
MF – Gall llawer o ddata fodoli yn y gadwyn
gyflenwi at ddibenion iechyd y cyhoedd, ac mae’n bosibl y
bydd gan awdurdodau lleol fwy o ddiddordeb yn hyn yn awr, ond nid
yw’n cael ei gasglu a’i rannu. Ac yn hollbwysig, o ran
dangos newid effeithiol, nid oes gennym ni afael clir ar ein man
cychwyn.
PF - O ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol mewn
llywodraeth leol, sut olwg sydd ar bryd o fwyd heb
gymhorthdal?
MF – Mae'n anodd iawn gweld, os ydych chi'n
sôn am leihau costau, eich bod chi'n mynd i wneud hynny heb
gyfaddawdu ar ansawdd. Mae rhywfaint o gyfaddawd rhesymol yn
bosibl, fel swmp-baratoi saws tomato pan fyddant yn eu tymor ac
ategu prydau cig gyda chorbys a chodlysiau. Mae arbedion posibl
eraill yn codi cwestiynau o ran dewisiadau: ni fyddai pob rhiant yn
hapus nac yn gyfforddus â'r syniad bod eu plant yn cael eu
bwydo â chig unwaith neu ddwywaith yr wythnos yn
unig.
JR - Mae bara, un o'r bwydydd sydd wedi ei brosesu
fwyaf, yn dal i gael ei brynu i mewn. Ai diffyg capasiti staff i
wneud bara yw’r rheswm am hyn?
MF – Mae ein staff cegin yn weithwyr rhan amser
a dim ond cyfnod byr o amser sydd ganddynt i baratoi cinio ysgol.
Mae bara menyn hefyd wedi dod yn ffordd o lenwi boliau plant a
allai fod yn dal yn llwglyd ar ôl cinio. Fodd bynnag, mae
achos iechyd da dros goginio ffa pob gan ddechrau gyda chynhwysion
crai.
JR - Ydych chi'n olrhain gwastraff bwyd?
MF – Mae ysgolion wedi gwneud rhywfaint o waith
yn monitro gwastraff oddi ar blatiau ond mae dod o hyd i’r
bobl, y gyllideb a’r offer i wneud hyn yn heriol. Mae
ysgolion sy'n gweini'r ddau gwrs ar hambwrdd tebyg i rai awyrennau
yn tueddu i wastraffu mwy o fwyd gan fod y pwdin yn cael ei fwyta
gyntaf. Cwestiwn i'w gyfeirio at Gyngor Sir Mynwy.
AC – Mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr
wedi gosod gwaelodlin ar eu gwastraff oddi ar blatiau
HT – Fel cynhyrchydd, canfuom na fyddai'n
ymarferol o dan y trefniadau presennol i gyflenwi ysgolion yn
uniongyrchol. Mae canolbwyntiau caffael yn cynnig model amgen, ac
mae gweithio gyda Chastell Howell wedi bod yn
werthfawr.
AC - Byddwn yn eiriol dros sefydlu targedau tymor
byr, canolig a hir ar gyfer faint o fwyd lleol y byddem yn ei weini
fel bwyd drwy ddarpariaeth. Dylid cydnabod gwerth economaidd,
amgylcheddol a chymdeithasol bwyd iach lleol wedi ei goginio
â deunyddiau crai yng nghost cymhorthdal, ond mae'n her
olrhain a monitro'r canlyniadau hyn gan ddefnyddio astudiaethau
hydredol. Ond ble bynnag rydym ni arni yn awr, rydym yn gwybod bod
y system wedi torri. Mae'n rhaid i ni wneud rhywfaint o newid -
dyna sut rydym yn blaenoriaethu ac yn cyllido cyfnod
pontio.
EM - Mae alinio popeth o ran yr hyn y gellir ei dyfu
a'r hyn sydd ar fwydlenni ysgol yn heriol ac mae angen iddo fod yn
ymatebol i aflonyddwch cynhaeaf a gorgyflenwad tymhorol. Mae angen
agwedd bragmatig, meddwl agored ac arbrofol i wneud y gorau o
gyflenwad lleol. Mae tyfu ar sail contract gyda thyfwyr lluosog yn
cynnig effeithlonrwydd a chydnerthedd ond nid yw defnyddio dull
llym o ymdrin â bwydlenni tymhorol yn ddefnyddiol - rydym yn
eithaf da am dyfu tomatos yn yr haf pan nad yw'r ysgolion yn
agored.
Rydym yn ceisio nodi pa ffrwythau a llysiau y gellir
eu tyfu'n broffidiol yn yr hinsawdd a'r mathau o bridd yng Nghymru,
ac os nad yw argaeledd yn cyd-fynd â thymhorau ysgol mae'n
rhaid i ni wneud rhywbeth gyda nhw i ymestyn y bywyd hwnnw. Er
enghraifft, gwnaed tri math o saws bolognese i wneud y gorau o'r
hyn oedd gennym ar gael - saws Bolognese safonol, un gyda 10% o
sbigoglys a’r llall gydag 20% o sbigoglys. Yng Nghaerdydd
rydym wedi edrych ar sut i ddefnyddio'r blodfresych cyfan, nid dim
ond y 40% o'r cnwd, sydd yn yr hyn sy’n blodeuo. Mae mynd i'r
afael ag effeithlonrwydd a gwastraff bwyd yn gofyn am
greadigrwydd.
KP – Canfu cynllun peilot Llysiau Cymru mewn
Ysgolion Cynradd fod tyfwyr bach yn brin o arian ar gyfer offer
cyfalaf. Mae garddwriaeth yn gweithredu ar orsymiau tynn gyda gallu
cyfyngedig i gynhyrchu arian wrth gefn. Mae'r cynllun peilot wedi
cynhyrchu llawer o dystiolaeth i Lywodraeth Cymru ar sut mae
grantiau'n gweithio. Mae her wirioneddol gyda grantiau a
benthyciadau. Mae cadwyni cyflenwi ysgolion hefyd yn cynnwys llawer
o waith papur achredu ar gyfer tyfwyr bach. Mae Synnwyr Bwyd Cymru
yn gweithio ar hynny gyda Cyswllt Ffermio. Mae'r partneriaethau
bwyd yn adeiladu'r cysylltiadau ar draws y gadwyn gyflenwi, gan
ddatblygu cysylltiadau rhwng tyfwyr, cyfanwerthwyr a rheolwyr
arlwyo.
HT – Mae grantiau cyfalaf garddwriaeth
Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhywbeth i’w groesawu, ond
roedd swm y manylion yr oedd eu hangen ar ymgeiswyr, a'r amseriadau
a'r gofynion cyllido lleiaf yn golygu bod y niferoedd yn llawer is
na'r disgwyl. Rydym yn pryderu y gallai Llywodraeth Cymru dybio bod
galw isel am y math hwn o gymorth. Rydym yn siarad â Kevin
Taylor yn Llywodraeth Cymru am sut gellir mynd i'r afael â'r
materion hyn. O ran benthyciadau, mae cyfraddau llog uchel yn her i
dyfwyr bach, hyd yn oed gyda’r banciau blaengar fel Banc
Datblygu Cymru.
EM – mae buddsoddiad cyfalaf yn dod ag arbedion
effeithlonrwydd i’w ganlyn. Mae peiriant cynaeafu newydd wedi
galluogi un tyfwr i gynaeafu tair gwaith cymaint o'i sbigoglys a
letys deiliog mewn hanner yr amser. Pan fyddwch chi'n brwydro yn
erbyn y tywydd gall hyn achub y cynhaeaf. Mae gwerth cadwyn
gyflenwi gynhenid, gadarn a chydnerth yn mynd i gynyddu yn y 5 neu
10 mlynedd nesaf - mae prisiau rhatach bwyd wedi ei fewnforio yn
amherthnasol os na all gyrraedd yma.
MF – O ran cynllunio bwydlenni, cydymffurfio a
sicrhau ansawdd mae’r system prydau ysgol yn eithaf anhyblyg,
tra bod cadwyni cyflenwi byd-eang a lleol yn pennu symudiad i ddull
mwy ystwyth, lle gallwn fanteisio ar argaeledd tymhorol. Ar hyn o
bryd nid yw'r system yn barod ar gyfer hyn. Gall gymryd chwe mis i
ddatblygu bwydlenni, ac mae angen gwiriadau lluosog er mwyn amnewid
eitemau. Mae'n her bolisi wirioneddol dod o hyd i'r ateb perffaith
rhwng system sy'n cadw defnyddwyr a staff yn ddiogel tra'n
caniatáu mwy o ystwythder nag sydd gennym ar hyn o
bryd.
JR – Mae llawer o deuluoedd yn parhau i
ddefnyddio pecynnau bwyd oherwydd bod y plentyn wedi arfer â
hyn. Sut ydych chi wedi annog plant i flasu pethau
newydd?
MF – Mae’r modd y rheolir yr ystafell
fwyta a’r modd y caiff gwastraff platiau ei fonitro yn
berthnasol i’r mater hwn. Yn yr un modd, darparu
gweithgareddau sy'n ymwneud â bwyd i blant, gan ddefnyddio
hyblygrwydd y cwricwlwm newydd i Gymru i alluogi plant i ddod yn
fwy cyfarwydd â bwyd drwy roi cyfleoedd iddynt drin ac arogli
llysiau. Bu rhywfaint o wrthwynebiad i'r dull hwn gan ei fod yn
cael ei weld fel rhywbeth sy'n annog plant i chwarae gyda bwyd neu
wastraffu bwyd. Mae awdurdodau lleol Caerdydd a Sir Gaerfyrddin
hefyd yn rhoi cynnig ar ymweliadau fferm, er mwyn rhoi modd iddynt
weld lle mae llysiau’n tyfu. Mae hyn i gyd yn normaleiddio
bwydydd a fyddai fel arall yn anghyfarwydd.
JR – Nododd Alex Cook yn y sgwrs Teams fod
safonau bwyd ysgol ar hyn o bryd yn dibynnu ar ddata maethol eithaf
hen ffasiwn, a bod gan lysiau a gynhyrchir yn lleol ddwysedd
maetholion uwch nag a fewnforir yn fasnachol - rhywbeth nad
yw’n cael ei gydnabod yn y system Saffron. Yn amlwg mae angen
i Lywodraeth Cymru weithio ar hyn.
AC – Gellid gwella Saffron pe bai'r codau
cynnyrch yn cynnwys rhai mesurau gwrthrychol o gynaliadwyedd, fel
tarddiad, olrhain, dull cynhyrchu. Byddai awdurdodau lleol yn cael
sgôr cynaliadwyedd dirprwyol yn y pen draw.
JR - Mae mesur yr hyn rydym yn ei wneud yn bwysig ar
gyfer y canlyniadau rydym eisiau eu gweld, sy'n ymwneud â'r
hyn a roddodd Katie Palmer hefyd yn y sgwrs am bobl mewn ardaloedd
difreintiedig yn llawer byrrach na phobl mewn ardaloedd mwy
cyfoethog.
JR - Diolch i Marianne, ac am ddyfalbarhau drwy
Covid. Roedd eich cyflwyniad yn hynod ddiddorol ac mae'n cyflwyno
llawer o bethau i ni feddwl amdanynt.
MF – Cynigiwyd gwerthfawrogiad a diolch i
gydweithwyr arlwyo sydd wedi bod yn agored ac yn hael gyda’u
gwybodaeth gyda hi a Phartneriaeth Bwyd Sir Fynwy a phrosiectau. Y
farn i gloi yw mai’r her fwyaf yw cynnal ansawdd y gwasanaeth
yn wyneb cyfyngiadau ariannol, heb sôn am ei
wella.
Testun y cyfarfod
nesaf
Yn dilyn awgrymiadau gan y rhai a oedd yn y cyfarfod,
penderfynodd JR wahodd Gareth Thomas o Gymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru i glywed rhagor o wybodaeth am Saffron, bara a rhai o’r
materion a godwyd yn y cyfarfod, ynghyd â chlywed gan Iechyd
Cyhoeddus Cymru wrth i’r corff hwnnw baratoi i
adolygu’r rheoliadau bwyd ysgol. Bwriedir cynnal y cyfarfod
yng Nghaerdydd, gyda’r dyddiad i'w gadarnhau.
Gweithredu: Y
Cadeirydd a'r Ysgrifenyddiaeth i gysylltu â'r prif siaradwyr
ar ddyddiad addas a chylchredeg dyddiad y gwahoddiad
Sylwadau i gloi gan
y Cadeirydd:
-
Diolchodd i MF a phawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau
at y drafodaeth.